Sefydlwyd grŵp o wirfoddolwyr - “Ffrindiau’r AHNE” yn mis Hydref 2021 i wneud gwaith ymarferol ar gynnal a chadw llwybrau, ffynhonnau a chynnal nodweddion eraill yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r grŵp yn anelu i gyfarfod unwaith y mis os bydd tywydd yn caniatau.
Yn ddiweddar bu’r grŵp yn gweithio ar wella mynediad at Ffynnon Saint ger Rhiw. Mae’r ffynnon yma ar y llwybr a ddefnyddiwyd ers canrifoedd gan bererinion, a oedd yn anelu am Ynys Enlli. Ers i’r ardal gael ei ddad-goedwigo, mae mynediad i’r ffynnon wedi ei rhwystro o gyfeiriad Tŷ’n y Parc oherwydd gor dyfiant a brigau coed ar draws y llwybr. Gyda cymorth gwirfoddolwyr AHNE Llŷn mae gwaith atgyweirio wedi ei wneud ar y llwybr, ag mae mynediad eithaf hwylus at y safle erbyn hyn.
I gofrestru, neu am fwy o wybodaeth am gynorthwyo gyda gwaith yn yr AHNE, cysylltwch â: ahnellynaonb@gwynedd.llyw.cymru.
2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS