Mae’r Uned AHNE wedi gweithio efo’r Sustrans, sef elusen sy’n hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio, i lunio Teithiau Beics Llŷn. Defnyddiwyd ffyrdd gwledig lleol hefo lefelau isel o draffig ar gyfer y teithiau. Mae pedair taith i gyd – tair ym Mhen Llŷn ac un yn Eifionydd - maent yn amrywio o 14 milltir i 27 milltir o hyd.
Mae gwybodaeth am y teithiau i’w gael mewn taflen i’w llawrlwytho (isod). Hefyd mae arwyddion glas a gwyn wedi eu gosod allan ar y ffyrdd er mwyn sicrhau y bydd pawb yn cadw at y llwybr cywir. Gellir cael copi caled o’r daflen gan yr Uned AHNE, Swyddfa’r Cyngor, Pwllheli neu trwy e-bostio : ahnellynaonb@gwynedd.llyw.cymru.
2025 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS