Mae’n ofynnol i baratoi ac adolygu Cynllun Rheoli ar gyfer pob Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn unol â gofynion y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Cyhoeddwyd y Cynllun Rheoli cyntaf ar gyfer AHNE Llŷn yn 2005 a chafodd y Cynllun hwnnw ei adolygu yn 2009/10 a 2014/5. Mae gwaith wedi dechrau ar adolygiad pellach o’r Cynllun ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.
Uned AHNE, Cyngor Gwynedd a Chydbwyllgor Ymgynghorol yr AHNE sydd yn arwain y gwaith o baratoi ac adolygu’r Cynllun Rheoli. Mae cynrychiolaeth o nifer o wahanol fudiadau a chyrff ar y Cydbwyllgor yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Cynghorau Cymuned, Undebau Amaethyddol, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a Chyfeillion Llŷn.
Mae’r Cynllun Rheoli yn berthnasol i’r holl unigolion sydd yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, ymwelwyr o bob math a hefyd gwahanol gyrff a mudiadau sy’n gweithredu yn lleol.
Am fwy o wybodaeth am Gynllun Rheoli’r AHNE cysylltwch gyda’r Uned AHNE.
2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS