Newyddion

Newyddion a Digwyddiadau

Y newyddion diweddaraf

Newyddion diweddaraf – edrychwch ar dudalen Instagram AHNE Llŷn.

Digwyddiadau

Rydym yn cynnal amryw o ddigwyddiadau yn cynnwys teithiau cerdded, hyfforddiant sgiliau gwledig a sgyrsiau, cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau

Llygad Llŷn

Mae ein rhifyn diweddaraf o newyddlen Llygad Llŷn ar gael yn ddigidol yma (yn ogystal â rhifynnau blaenorol). Copïau caled hefyd ar gael mewn amryw o siopau lleol ac atyniadau megis Nant Gwrtheyrn ac Oriel Plas Glyn y Weddw. (Os ydych yn berchen ar fusnes neu atyniad yn lleol ac yn dymuno derbyn bocs i’w ddosbarthu ymysg eich cwsmeriaid, cysylltwch gyda ni).

Hefyd, buasem yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y rhifyn diweddaraf – ac yn gwerthfawrogi eich barn!

Enillwyr Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE Llŷn

Thema ein cystadleuaeth eleni oedd yr Amgylchedd Hanesyddol. Diolch i bawb gymerodd rhan, cawsom luniau gwerth chweil ag amrywiol, gan arddangos fod ardal Llŷn frith o adeiladau, strwythurau ac olion hanesyddol. Mae’r amgylchedd hanesyddol unigryw wedi ei adnabod fel un o rinweddau’r ardal. Diolch hefyd i’r beirniad @gareth_jenkins_photography.

Mae’n bleser cyhoeddi mai Dafydd Hughes oedd enillwr y wobr gyntaf eleni, gyda’r llun syfrdanol o’r hen bier “stage” chwarel Llanbedrog, Lan Mor Tyn Tywyn. Ei wobr oedd tocyn anrheg @nantgwrtheyrn.

Dyma lun trawiadol o’r awyr dywyll uwchben Mynachdy Ynys Enlli, a dynnwyd gan Emyr Owen. Emyr gipiodd yr ail wobr.

Yn cipio’r drydydd wobr yn ein cystadleuaeth ffotograffiaeth mae llun Rhodri Jones o’r goleudy ar Ynys Enlli. Adeiladwyd y goleudy nol yn 1821, mae’n adeilad arwyddocaol a pwysig ar yr Ynys.

Llun gan Dafydd Hughes - hen bier “stage” chwarel Llanbedrog, Lan Mor Tyn Tywyn Llun gan Emyr Owen - awyr dywyll uwchben Mynachdy Ynys Enlli Llun gan Rhodri Jones - goleudy ar Ynys Enlli

2025 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS