Croeso i

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn

Yn 1957, dynodwyd rhan o Benrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.

Dim ond mannau o harddwch arbennig sy’n cael eu dynodi yn AHNE a dim ond 5 ardal sydd wedi eu dynodi trwy Gymru gyfan. Prif bwrpas y dynodiad yw cynnal a gwella yr harddwch hwnnw.

Map yn dangos ardal AHNE Llŷn

Ffin yr AHNE

Cliciwch ar y map i weld fersiwn mwy

Ffeithiau a Ffigyrrau

  • Mae AHNE Llŷn yn gartref i’r fran goesgoch, aderyn arbennig a phrin sy’n cael ei warchod; mae oddeutu 60 pâr yn nythu yn yr ardal.
  • Mae’r AHNE yn cynnwys 15,500 hectar o dir.
  • Mae tua 70% o boblogaeth yr ardal yn siarad Cymraeg.
  • Mae 242 o adeiladau a strwythurau rhestriedig yn yr ardal, yn cynnwys 7 gradd I.
  • Ceir 22 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn yr AHNE.
  • Dynodwyd 55 milltir o arfordir yr AHNE yn Arfordir Treftadaeth

2024 AHNE Llŷn
gwefan gan WiSS